Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

Oddi wrth:    Llywodraeth Cymru

Dyddiad:       8 Tachwedd 2017

Lleoliad:        Senedd Bae Caerdydd

Teitl:               Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2018-19

 

1.   Diben

 

Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar 3ydd Awst yn ei wahodd ef a’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth ar eu cynigion ar gyfer y Gyllideb ddrafft i’r Pwyllgor ac yn gofyn am bapur mewn perthynas ag iechyd plant a gwasanaethau cymdeithasol o fewn y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Iechyd, Llesiant a Chwaraeon sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (y Pwyllgor).

 

2.   Cyflwyniad

 

Mae dau gam i broses y Gyllideb ddrafft bellach.  Cyhoeddwyd y gyllideb amlinellol (Cam 1) ar 3 Hydref 2017, a’r gyllideb fanwl (Cam 2) ar 24 Hydref.  Mae’r gyllideb amlinellol yn canolbwyntio ar gwmpas ariannol cyffredinol Llywodraeth Cymru a’r prif ddyraniadau ar lefel MEG, tra bod y gyllideb fanwl yn cwmpasu cynlluniau gwario ar Lefel Wariant yn y Gyllideb (BEL) o fewn pob MEG.

 

Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gynigion cyllidebol y dyfodol y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar gyfer 2018-19 ac mae hefyd yn darparu diweddariad ar feysydd penodol sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

 

3.   Sylwadau ar Gamau Gweithredu a manylion ar ddyraniadau Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (BEL) 

 

Mae’r Gyllideb Ddrafft fanwl a gyhoeddwyd ar 24 Hydref yn nodi’r cynlluniau gwario fesul BEL ar gyfer MEG Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar gyfer 2018-19 a’r blynyddoedd i ddod.   Mae gwariant plant a phobl ifanc yn digwydd ar draws ystod o gyllidebau o fewn MEG Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Mae awdurdodau lleol yn derbyn cyllid yn eu setliad refeniw gan MEG Llywodraeth Leol i ddarparu eu gwasanaethau i blant a theuluoedd. 

 

Caiff darpariaeth gwasanaeth y GIG mewn perthynas â phlant, cyflyrau meddygol plant ac iechyd cyffredinol plant ei hariannu’n bennaf drwy ddyraniadau refeniw blynyddol i fyrddau iechyd. O gofio natur gyffredinol gwasanaethau iechyd, ni chaiff gwariant cynlluniedig ei nodi fesul categori oedran fel arfer.  Fodd bynnag, bydd cyfran sylweddol o wariant y GIG yn mynd tuag at ariannu gwasanaethau a ddarperir i blant. Bydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymeithasol a Chwaraeon yn craffu ar gynlluniau’r gyllideb ar gyfer holl wariant y GIG.

 

4.   Deddfwriaeth

 

Rydym yn dyrannu’r cyllid canlynol mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol.

 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

Yn 2018-19 cedwir hyd at £0.2 filiwn o fewn BEL Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy 0920 i gefnogi gweithgarwch cenedlaethol i sicrhau dulliau cyson o ymdrin â phrosesau cyffredin ar draws y rhanbarthau gan ddarparu dyletswyddau o dan y Ddeddf (e.e. rheoli perfformiad, dulliau ymarfer newydd) a hyrwyddo ymgysylltiad trydydd sector, tra bod £2.8 miliwn o gyllid rheolaidd wedi’i drosglwyddo i’r Grant Cynnal Refeniw yn weithredol o 2017-18 i gefnogi darpariaeth drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol.

 

 

 

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

 

Derbyniodd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru 2016 Gydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016.  Fel y cyhoeddwyd yn y weinyddiaeth ddiwethaf, mae rheoliadau gwasanaeth o dan y Ddeddf yn cael eu datblygu mewn tri cham, gyda’r disgwyliad i Gam 1 a 2 ddod i rym o fis Ebrill ac i’r Ddeddf gael ei gweithredu’n llawn erbyn mis Ebrill 2019.  Rhagwelir y bydd costau pontio AGGCC mewn perthynas â gweithredu’r Ddeddf yn ystod 2018-19 tua £1.5 miliwn sydd o fewn BEL Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy 0920.

 

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 

Yn dilyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf eleni, mae £0.728 miliwn o gyllid wedi’i gynnwys o fewn BEL Gwella Iechyd ac Anghydraddoldebau (0231), i gefnogi’r gwaith o weithredu Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ystod 2018-19 (mae hyn yn eithrio cyllid ar gyfer y darpariaethau fferyllol a gwmpesir o dan BEL Gofal Sylfaenol y GIG (0180)). Bydd hyn yn cefnogi amrywiaeth o weithgarwch, gan gynnwys paratoi ac ymgynghori ar is-ddeddfwriaeth, yn ogystal â hyfforddi a chyfathrebu. Bydd nifer o bolisïau i’w gweithredu o dan y Ddeddf yn uniongyrchol fuddiol i blant a phobl ifanc, gan gynnwys datblygu strategaeth gordewdra genedlaethol, cyfyngiadau ar smygu ar dir ysgolion a pharciau chwarae cyhoeddus, ac atal rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ar blant. Yna bydd gweithredu’n parhau y tu hwn i flwyddyn ariannol 2018-19, gan gyfateb â’r trefniadau dod i rym ar gyfer agweddau gwahanol o’r Ddeddf.

 

5.   Hawliau Plant a Chydraddoldeb

 

Asesiadau Effaith

 

Nid ydym wedi cynnal Asesiad Effaith o Hawliau Plant yn benodol ar y newidiadau i’r gyllideb ar gyfer y portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Bydd dyletswydd ar sefydliadau’r GIG i gynnal Asesiadau Effaith o Hawliau Plant yn lleol wrth ddatblygu eu cynlluniau tymor canol gan ystyried y buddsoddiad ychwanegol a ddarperir yn y gyllideb hon.

 

Cydraddoldeb, cynaliadwyedd a’r Gymraeg

 

Mae’r holl gyhoeddiadau rhaglen a deunyddiau hyrwyddo a gynhyrchwyd gennym yn cael eu hargraffu’n ddwyieithog, caiff ein holl wasanaethau i deuluoedd eu darparu’n ddwyieithog a chaiff ein holl gyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol eu cofnodi’n ddwyieithog. Mae safonau’r Gymraeg yn berthnasol i sefydliadau’r GIG hefyd.

 

Rydym yn trafod cydraddoldeb ac atal yn ddiweddarach yn y papur hwn.

 

Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Cyhoeddodd y Prif Weinidog ‘Ffyniant i bawb – strategaeth genedlaethol’ ym mis Medi. Mae’n crybwyll nodau’r Llywodraeth ac yn darparu eglurhad ynghylch sut rydym yn dymuno i Lywodraeth a phartneriaid cyflenwi fod yn rhan o’r dull newydd o ddarparu blaenoriaethau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cefnogi Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflenwi wrth wneud y newidiadau pwysig hyn i’r ffordd rydym yn gweithio.

 

Mae’r strategaeth yn nodi 12 amcan llesiant diwygiedig a’r camau rydym yn bwriadu eu cymryd i’w diwallu. Ynghyd â’r datganiad llesiant a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r strategaeth, mae’r amcanion hyn yn nodi’r meysydd lle y gall Llywodraeth Cymru wneud y cyfraniad mwyaf i’r saith nod llesiant ar gyfer Cymru ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer partneriaethau cryf ag eraill.

 

Drwy barhau i gynyddu ein buddsoddiad mewn GIG Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y Ddeddf yn nhermau sicrhau cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau iechyd. O fewn ein portffolio, rydym wedi defnyddio’r Ddeddf fel sail i amddiffyn ein buddsoddiad mewn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gefnogi ein huchelgais barhaus i symud tuag at atal, a chynyddu ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant y gweithlu iechyd a gofal, i sicrhau bod gennym weithlu sy’n addas ar gyfer yr hirdymor.

 

Rydym wedi defnyddio’r dull atal i ddylanwadu ar ddyraniadau cyllideb penodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae dwy enghraifft fel a ganlyn:

 

 

6.   Gwybodaeth arall

 

Gwerth am Arian

 

Cynhelir gwerthusiadau fel rhan o weithgareddau rheoli prosiect a grant arferol.  Pan fyddwn yn ariannu sefydliadau Trydydd sector yn uniongyrchol, mae fy swyddogion yn gweithredu’n briodol cyn dyrannu grant ac yna’n adolygu’r grant yn rheolaidd cyn i daliadau gael eu gwneud.  Mewn perthynas â chyllido byrddau iechyd, byddwn yn parhau i fonitro perfformiad, asesu canlyniadau a hyrwyddo gwelliannau a darpariaeth yn y dyfodol, gan gynnwys gwerth am arian drwy Fframwaith Cyflawni y GIG.

 

Goblygiadau o ganlyniad i’r DU yn gadael yr UE.

 

Sefydlodd Llywodraeth Cymru dîm penodol i gydlynu materion Trefniadau Pontio Ewropeaidd, sy’n gweithio’n agos â’r tîm presennol ym Mrwsel ac adrannau polisi, gan gynnwys y rhai o fewn ein portffolio. Er bod gadael yr UE yn cael effaith uniongyrchol gyfyngedig ar ein rhaglenni portffolio, rydym yn gweithio gyda’r GIG i barhau i ystyried effaith cynigion Brexit wrth iddynt ddatblygu ac mae cyflogwyr yn gweithio gyda Chynghrair Cavendish ehangach y DU i asesu effaith a dylanwad Llywodraeth y DU ar y materion hyn.

 

7.   Meysydd Penodol

 

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed

 

Mae cyllid CAMHS yn perthyn o fewn y dyraniad cyffredinol sydd wedi’i glustnodi i fyrddau iechyd ar gyfer iechyd meddwl, sef £629 miliwn yn 2017-18. Yn unol â Chytundeb y Gyllideb â Phlaid Cymru, caiff £20 miliwn arall ei fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl wedi’u clustnodi yn 2018-19. Cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw sicrhau bod gwariant yn cyfateb ag anghenion y boblogaeth.  Yn 2016-17 rydym wedi buddsoddi’n rheolaidd tua £8 miliwn o gyllid newydd mewn CAMHS.  Nid ydym yn casglu data ar sut y caiff gwariant CAMHS ei rannu yn ôl Haen unigol o ddarpariaeth.  Dengys data ar draws holl wasanaethau CAMHS y bu gwariant o £45.8 miliwn yn 2015-16, sef y data mwyaf diweddar sydd ar gael. Mae hyn yn gynnydd o gymharu â £41.3 miliwn yn 2014-15.  Buasem yn disgwyl gweld y ffigur hwn yn cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod yn unol â’r buddsoddiad ychwanegol hwn. 

 

Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc

 

Mae ein buddsoddiad o £8 miliwn ychwanegol mewn CAMHS yn ategu ac yn galluogi gwaith y rhaglen i gael ei ymgorffori ar draws gwasanaethau CAMHS.  Buasem yn disgwyl i oblygiadau ariannol y rhaglen fod yn niwtral o ran y gost neu hyd yn oed cynhyrchu effeithlonrwydd y gellid ei ail-fuddsoddi mewn CAMHS, gan fod y Rhaglen yn ymwneud â sicrhau bod y system gyfredol yn gweithio’n well ar gyfer pobl ifanc.  Er enghraifft, mae lleihau atgyfeiriadau amhriodol yn arwain at effeithlonrwydd, oherwydd nid yw’r atgyfeiriadau hyn er budd y person ifanc, ond maent hefyd yn cymryd amser asesu clinigol gwerthfawr, amser y gellid ei dreulio yn gweithio gyda’r bobl ifanc hynny sydd â’r galw mwyaf am wasanaeth iechyd meddwl arbenigol. 

 

Yn 2017-18 darparwyd rhagor o gymorth ariannol i sicrhau prosesau’r rhaglen.  Mae hyn yn cynnwys £0.135 miliwn i gyllido swydd Cyfarwyddwr Cenedlaethol dros Iechyd Meddwl, sydd hefyd yn cyflawni rôl Arweinydd Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc.  Rydym hefyd wedi darparu cyllid o £0.056 miliwn i ddarparu cymorth gweinyddol ymroddedig i ddeiliad y swydd, yn benodol mewn perthynas â’i rôl fel Arweinydd y Rhaglen.  

 

Gwariant y GIG ar CAMHS

 

Nid ydym yn nodi pa gyfran o gyllid refeniw cyffredinol y GIG y dylai byrddau iechyd wario ar wasanaethau CAMHS. Rydym yn buddsoddi £20 miliwn arall mewn gwasanaethau iechyd meddwl wedi’u clustnodi yn 2018-19, a byddwn yn disgwyl i fyrddau iechyd fuddsoddi’r cyllid hwn i ddiwallu ein blaenoriaethau gan gynnwys gwasanaethau CAMHS.

 

Canran y gwariant a ddyrannwyd i Fyrddau Iechyd Lleol ar gyfer iechyd meddwl ers mis Medi 2015.

 

Dengys ffigurau o StatsCymru taw cyfanswm y gwariant ar iechyd meddwl yn ystod 2015-16 (y ffigurau diweddaraf sydd ar gael) oedd £683 miliwn, gan gynnwys CAMHS, cyffredinol, henoed ac iechyd meddwl arall.  Roedd gwariant CAMHS yn cyfrif am tua 7% o’r cyfanswm hwn (£46 miliwn).  Fodd bynnag, bydd hefyd elfennau o wariant CAMHS yn gyffredinol ac iechyd meddwl arall oherwydd y byddai’r penawdau hyn yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol, ac ati.  Hefyd, nid yw’n bosibl gwneud cymhariaeth gyfatebol, drwy gymharu gwariant ar CAMHS gyda meysydd eraill o fewn iechyd meddwl o gofio natur y salwch a’r gwahaniaeth o ran triniaeth.  Mae oedolion a phobl hŷn yn tueddu i ddioddef salwch mwy parhaus, sy’n golygu bod angen aros yn yr ysbyty yn fwy rheolaidd ac am gyfnodau hirach, sy’n ddrud iawn.  Ein blaenoriaeth o fewn CAMHS yw sicrhau taw opsiwn olaf yw aros yn yr ysbyty, felly dyna pam mae byrddau iechyd wedi buddsoddi mewn timau triniaeth yn y gymuned.  Mae hyn yn golygu bod llawer mwy o bobl ifanc yn cael eu trin yn y gymuned heb fod angen mynd i’r ysbyty, gan hwyluso gostyngiad o ran lleoliadau drud y tu allan i’r ardal.

 

A fydd y cyllid ychwanegol, bron £8 miliwn, a fuddsoddwyd mewn CAMHS yn parhau i gael ei ddyrannu yn flynyddol.

 

Ydy, mae’r ymrwymiad hwn wedi bod yn glir. Mae cyllid bellach wedi’i ymgorffori o fewn prif ddyraniadau byrddau iechyd a byddwn yn parhau i fonitro dulliau byrddau iechyd o weithredu’r cyllid hwn.

 

Diweddariad ar wariant gwirioneddol ar CAMHS, yr alldro ar gyfer 2017-18 a’r gwariant rhagweledig ar gyfer 2018-19, fesul Haen a/neu flaenoriaeth y llywodraeth fel gwasanaethau niwroddatblygiadol, ymateb CAMHS mewn argyfwng, mynediad i therapïau seicolegol, gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, darpariaeth ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hynny yn y system cyfiawnder troseddol a phobl ifanc sy’n datblygu salwch difrifol yn gynnar, fel seicosis.

 

Nid yw’r wybodaeth hon ar gael ar lefel Haen unigol, fel y nodwyd uchod.  Mewn perthynas â blaenoriaethau’r llywodraeth a restrir, ffurfiodd y rhain y buddsoddiad newydd blynyddol ychwanegol mewn CAMHS a gyhoeddwyd yn ystod 2015-16.  Mae’r cyllid hwn wedi’i ymgorffori o fewn prif ddyraniadau byrddau iechyd ar gyfer y flwyddyn gyfredol ac yn ffurfio isafswm lefel y gwariant y dylai’r byrddau iechyd ei ddarparu ac yn rhan o’r cyllid sydd wedi’i glustnodi a’i amddiffyn ar gyfer iechyd meddwl.  Rhannwyd y cyllid hwn ymhlith y blaenoriaethau canlynol:

 

Ø  £2.7 miliwn i ddatblygu timau ymyrryd mewn argyfwng

Ø  £2 miliwn i ddatblygu gwasanaethau niwroddatblygiadol newydd

Ø  £1.1 miliwn i ymestyn darpariaeth ar gyfer therapïau seicolegol

Ø  £0.800 miliwn i wella cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol i blant

Ø  £0.800 miliwn i ddatblygu ymyrraeth gynnar mewn timau seicosis a £0.318 miliwn arall ar gyfer gweithwyr cymorth trydydd sector

Ø  £0.250 miliwn i wella darpariaeth ar gyfer y rhai sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol

 

Unrhyw arian ychwanegol, dewisol (a) sydd wedi’i gyllidebu a (b) sydd wedi’i wario ar iechyd meddwl plant, y glasoed ac oedolion ifanc.

 

Bydd y Pwyllgor yn ymwybodol ein bod wedi gwneud rhai cyhoeddiadau pwysig dros yr wythnosau diwethaf mewn perthynas â chyllid newydd ar gyfer iechyd meddwl gan gynnwys:

 

Ø  Er mwyn diwallu blaenoriaeth allweddol yn y strategaeth Ffyniant i Bawb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Medi £1.4 miliwn dros y cyfnod 2017-18 i 2020-21 i ariannu cynlluniau peilot yng ngogledd, de a gorllewin Cymru.  Bydd y rhain yn darparu mewngymorth iechyd meddwl ymroddedig i ysgolion, gan ganolbwyntio ar ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd sydd â blwyddyn chwech sy’n bwydo ysgolion uwchradd yn Wrecsam; Dinbych; Torfaen; Blaenau Gwent; de Powys; a Cheredigion.  Bydd y cynlluniau peilot yn ceisio gwella cydnerthedd emosiynol plant, nodi plant sydd angen mwy o ymyriadau wedi’u targedu, gan eu cyfeirio’n amserol at ddarparwr priodol.  Byddant hefyd yn cefnogi athrawon, o fewn eu cymhwysedd, i ddod yn fwy hyderus wrth nodi ac ymdrin â materion cyn iddynt waethygu.

 

Ø  Cyllid rheolaidd o £0.500 miliwn ychwanegol i wella’r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta.  Ffocws y cyllid hwn yw cryfhau’r broses o bontio pobl ifanc o CAMHS i wasanaethau oedolion, gan alluogi CAMHS a gwasanaethau oedolion i weithio’n agosach gyda’i gilydd i ddiwallu anghenion y person ifanc a galluogi gwasanaethau oedolion i ddatblygu modelau darparu sy’n gweithio a ddefnyddir yn aml o fewn CAMHS. 

 

Ø  O 2018-19 rydym hefyd yn cynnig cyllid ychwanegol, yn unol â’r cytundeb ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru i sicrhau cynnydd o £40 miliwn yn y cyllid sydd wedi’i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl dros y ddwy flynedd nesaf, er mwyn cryfhau darpariaeth iechyd meddwl ymhellach, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc gyda dros £1 miliwn o gyllid newydd i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau allweddol ymhellach a’r Rhaglen Law yn Llaw at Bobl Ifanc.  Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda byrddau iechyd a rhanddeiliaid eraill i weld y ffordd orau o ddefnyddio’r cyllid hwn a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau ffurfiol maes o law. 

 

Y modd y caiff gwariant ar CAMHS ei olrhain gan Lywodraeth Cymru a’r prosesau sydd ar waith i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am sicrhau bod gwariant byrddau iechyd yn unol ag anghenion y boblogaeth sydd angen gwasanaethau CAMHS a’r buddsoddiad ychwanegol mewn CAMHS ers 2015-16.

 

Mae angen tystiolaeth i ddangos bod unrhyw fuddsoddiad mewn CAMHS yn arwain at berfformiad a darpariaeth well o ran gwasanaethau.  Rwyf yn falch taw dyma’r achos gyda CAMHS.  Mae bellach gennym wasanaethau newydd ar waith fel timau niwroddatblygiadol lle nad oedd unrhyw ddarpariaeth, neu ddarpariaeth wael, o’r blaen.  Mae hefyd gennym dimau argyfwng newydd sy’n gweithio oriau estynedig yn ystod yr wythnos a gydag argaeledd dros y penwythnos lle nad oedd dim o’r blaen.  Rydym hefyd yn gweld manteision yn nhermau perfformiad ac amseroedd aros CAMHS. 

 

Rydym yn parhau i olrhain y modd y mae byrddau iechyd yn gweithredu’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer CAMHS dros y blynyddoedd diwethaf ac yn fwy cyffredinol, yn sicrhau bod perfformiad CAMHS yn parhau i gael ei archwilio fel rhan o drefniadau monitro perfformiad cyffredinol y GIG.

 

Gwariant awdurdodau lleol ar wasanaethau iechyd meddwl i gefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.

 

Mae ffigurau StatsCymru yn nodi bod awdurdodau lleol wedi gwario £577 miliwn ar wasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant a theuluoedd yn 2016-17. Nid oes gennym ddadansoddiad manylach o’r cyllid hwn i nodi’r swm a wariwyd ar wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.  Gwyddom fod cymorth iechyd meddwl ac emosiynol yn cael ei ddarparu ar draws amrywiaeth o sefydliadau a lleoliadau.  Ymhlith y rhain mae’r hyn a adwaenir fel cymorth iechyd meddwl ac emosiynol clir, a ddarperir gan wasanaethau cwnsela mewn ysgolion, a’r £1.4 miliwn y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a minnau wedi cytuno yn ddiweddar i’w fuddsoddi mewn ysgolion ar gyfer mewngymorth iechyd meddwl. 

 

Fodd bynnag, mae hefyd yn cwmpasu amrywiaeth o gymorth arall ar gyfer plant a ddarperir yn ddyddiol gan athrawon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill sydd oll yn cyfrannu at lesiant emosiynol mewn rhyw ffordd.  Er enghraifft, mae cael mynediad i lyfrau hunangymorth mewn llyfrgelloedd fel rhan o’n cynllun ‘ Llyfrau Llesol’, yn helpu teuluoedd a phlant i ddeall materion emosiynol sydd ynghlwm wrth fwlio, profedigaeth, straen arholiadau, ac ati.  Yn yr un modd, amlygwyd y cymorth a’r gofal y gall athrawon ddarparu i’w disgyblion yn adroddiad ‘Gwneud Synnwyr’ 2016 gan ddefnyddwyr gwasanaeth CAMHS, a nododd y byddai’n well gan 39% geisio help a chymorth gan athro roeddent yn ymddiried ynddo.  Mae ymyriadau o’r fath yn darparu cymorth gwerthfawr i deuluoedd a phlant ond maent yn amhosibl i’w meintioli mewn termau ariannol. 

 

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i ymrwymo i gyllid o £1.2 miliwn dros dair blynedd (2017 – 2020) i helpu darparu adnoddau ar gyfer Canolfan Cymorth ac Atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru a gynigir fel un o’r tair rhaglen waith gyntaf y dylid mynd i’r afael â hi gan Cymru Well Wales. Y ganolfan yma fyddai’r canolbwynt ar gyfer gwybodaeth, tystiolaeth ac arbenigedd ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ar gyfer Cymru.   Byddai’n cynyddu dealltwriaeth am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, yn ogystal â chefnogi ac ysbrydoli unigolion, cymunedau a sefydliadau i ddysgu am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a newid eu meddylfryd a’u hymddygiad. Daw’r cyllid hwn o sawl portffolio cabinet gwahanol, yn bennaf gan bortffolios Cymunedau a Phlant, Addysg Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyllideb o £0.143 miliwn ar gyfer ei 1,000 Diwrnod o waith.

 

Cyllidebau Iechyd Plant

 

Rwyf wedi cytuno i ryddhau cyllid rhaglen o £0.168 miliwn am swydd 3 blynedd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu polisïau iechyd plant. Gofynnwyd am gyllid rhaglen i ddarparu adnodd ymroddedig i gyflawni polisïau iechyd plant, gan gynnwys ffrydiau gwaith y Rhaglen Plant Iach Cymru, gan ddatblygu Cynllun Plant Iach ac arwain ar bolisi gynecoleg.

 

Mae byrddau iechyd yn adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru ar gyfraddau bwydo ar y fron mewn gofal mamolaeth a sut y maent yn gweithio i gefnogi hyn, gan gynnwys drwy fydwragedd arbenigol a rhaglenni cyfeillion cefnogol. Caiff data ar gyfraddau bwydo ar y fron eu casglu hefyd fel rhan o’r Rhaglen Plentyn Iach Cymru. Mae cyfraddau bwydo ar y fron wedi aros yn ddigyfnewid yn gyffredinol yng Nghymru ac mewn ymateb i hynny mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedi gofyn am adolygiad o’r cyfeiriad strategol o ran bwydo ar y fron. Ar y cyd â Choleg Brenhinol y Bydwragedd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu arferion gorau a’r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol i Gymru. Bydd y grŵp yn cyflwyno adroddiad ar ei argymhellion yn gynnar yn 2018.

 

Yn ogystal, mae’r holl unedau mamolaeth yng Nghymru wedi cael Gwobr Cyfeillgar i Fabanod UNICEF (sy’n pwysleisio diogelu, hyrwyddo a chefnogi bwydo ar y fron) ac yn cyrraedd ei safonau.

 

Rhaglen Plant Iach Cymru

 

Mae’r Rhaglen Plant Iach Cymru wedi’i chynnwys o fewn Symud Cymru Ymlaen ac y’i lansiwyd ym mis Hydref 2016. Mae’n nodi cyfres gyffredinol o gysylltiadau cynlluniedig y gall plant a’u teuluoedd ddisgwyl gan y byrddau iechyd a chyfnod trosglwyddo o’r gwasanaeth mamolaeth i flynyddoedd cyntaf yn yr ysgol (0-7 oed). Mae’r cysylltiadau cyffredinol hyn yn cwmpasu tri maes ymyrryd: sgrinio; imiwneiddio; a monitro a chefnogi datblygiad plant.

 

Mae byrddau iechyd ar hyn o bryd yn cynnig cysylltiadau gwahanol i deuluoedd ac maent yn gweithio tuag at ddarparu’r atodlen gyffredinol o gysylltiadau a nodwyd o fewn Rhaglen Plant Iach Cymru. Mae’n rhaid i’r rhaglen gael ei gweithredu’n llawn ar draws pob bwrdd iechyd o fewn 2 flynedd, erbyn mis Hydref 2018.

 

Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn Rhaglen ad-drefnu dan arweiniad gwasanaethau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac nid oes unrhyw gostau ariannol i LlC o ganlyniad i ddatblygu/gweithredu’r rhaglen ei hun, er bod costau ynghlwm wrth y gwaith o werthuso’r rhaglen.

 

Mae gan Raglen Plant Iach Cymru broses dau gam ar gyfer gwerthuso, a fydd yn cynnwys gwerthuso cynnydd y broses weithredu yn erbyn y rhaglen a sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson ledled Cymru:

 

 

Iechyd meddwl amenedigol a mamau

 

Mae timau iechyd meddwl amenedigol bellach wedi’u sefydlu o fewn pob bwrdd iechyd yn derbyn £1.5 miliwn bob blwyddyn ac yn gweithredu fel y brif ffynhonnell gymorth ar gyfer mamau sydd â phroblemau iechyd meddwl sy’n ymwneud â bod yn fam.

 

Bydd y prosiect ‘Meddwl am Ddau’ a ddarperir gan Mind Cymru, yn derbyn £15,720 yn 2017-18 ar gyfer cam olaf y prosiect.

 

Y gyllideb ar gyfer 2018-19 fydd £1.5 miliwn ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru.  Mae’r mwyafrif o’r cyllid hwn wedi’i gynnwys o fewn y dyraniad sydd wedi’i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl.  Nid yw hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer gofal cleifion mewnol arbenigol, a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) ar ran y Byrddau Iechyd Lleol. 

 

Y gyllideb ragamcanol ar gyfer 2019-20 a 2020-21 yw £1.5 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymunedol, er y gall byrddau iechyd ychwanegu at hyn o’u cyllideb iechyd meddwl sydd wedi’i chlustnodi.

 

Gwasanaethau Newyddenedigol

 

Caiff gwasanaethau newyddenedigol byrddau iechyd eu cyllido drwy’r dyraniad refeniw dewisol blynyddol a bydd byrddau iechyd yn gosod eu blaenoriaethau lleol mewn perthynas â gwasanaethau newyddenedigol yn eu Cynlluniau Tymor Canol Integredig, a fydd hefyd yn rhoi manylion eu dyraniad o ran y gyllideb newyddenedigol i WHSSC ar gyfer 2018-19. Mae WHSSC yn rheoli’r mwyafrif o gyllideb y byrddau iechyd ar gyfer comisiynu gwasanaethau Gofal Dwys Newyddenedigol (Lefel 4) a Dibyniaeth Uchel Newyddenedigol (Lefel 3). Caiff y gyllideb ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod ei rheoli gan y Byrddau Iechyd.

Yn nhermau cyfalaf, y dyraniadau cyllideb ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ar gyfer 2017-18 a 2018-19 yw £33.396 miliwn a £9.407 miliwn yn y drefn honno. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid cyfalaf o £11.156 miliwn (17-18) i gefnogi capasiti ychwanegol a gwelliannau mewn cyfleusterau newyddenedigol yng Ngogledd Cymru. Bydd y Ganolfan Gofal Dwys Newyddenedigol Is-ranbarthol yn Ysbyty Glan Clwyd yn darparu gofal o’r safon orau posibl a’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer mamau a’u babanod ledled Gogledd Cymru, gan ganoli gofal dwys yn Ysbyty Glan Clwyd.

 

Mae Rhaglen De Cymru yn nodi darpariaeth gwasanaethau obstetrig, pediatrig a newyddenedigol yn y dyfodol ar draws ysbytai De Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn achosion busnes unigol gan fyrddau iechyd i fynd i’r afael â Rhaglen De Cymru. Cymeradwywyd cynigion cyfalaf o £15.935 miliwn (17-18) a £7.772 miliwn (18-19) ar gyfer capasiti ychwanegol a gwelliannau ar gyfer cyfleusterau newyddenedigol ac obstetrig yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd a £6.305 miliwn (17-18) ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf er mwyn darparu gwasanaethau wedi’u hailfodelu yn Ysbyty Tywysog Siarl.

 

Ymhlith y blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau Newyddenedigol dros y 12 mis nesaf mae gweithio gyda’r Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau gwasanaeth cludiant newyddenedigol 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos ar draws De Cymru a sicrhau bod y capasiti gofal critigol cywir ar waith ar draws De Cymru. Rwyf hefyd yn disgwyl i Fyrddau Iechyd weithio gyda’r Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau bod eu cynlluniau gwasanaeth newyddenedigol yn ddigon cryf i gyflawni Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan a gwelliannau ar draws y gwasanaeth.

 

Yn ôl y dadansoddiad o wariant cyllidebu rhaglenni’r GIG ar gyfer 2015-16 gwariwyd £63.6 miliwn ar driniaeth gwasanaethau newyddenedigol.

 

Y modd y caiff gwariant ar wasanaethau newyddenedigol ei olrhain gan Lywodraeth Cymru a’r prosesau sydd ar waith i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am sicrhau bod gan wasanaethau newyddenedigol y cyllid a’r staffio sydd eu hangen i fodloni safonau cenedlaethol.

 

Rwyf yn disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu gwasanaethau newyddenedigol diogel a chynaliadwy, wedi’u cefnogi gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a’r Rhwydwaith Newyddenedigol.

 

Mae Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru yn goruchwylio gofal newyddenedigol yn erbyn Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan ac yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro’n rheolaidd yn unol â chydymffurfiaeth lawn. Mae’r Rhwydwaith wedi symud yn ddiweddar i Gydweithrediaeth y GIG, a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn darparu cyngor amser yn seiliedig ar dystiolaeth i Fyrddau Iechyd, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwasanaethau newyddenedigol. 

 

Mae’r Rhwydwaith Newyddenedigol wedi diwygio’r safonau Newyddenedigol yn ddiweddar. Mae’r safonau yn defnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf a chanllawiau arfer gorau i sicrhau eu bod yn berthnasol yn glinigol ac yn weithredol. Cânt eu dylanwadu gan ddatblygiadau newyddenedigol ar draws y Deyrnas Unedig ac maent yn ystyried argymhellion gan Gymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain (BAPM), y Rhaglen Archwilio Newyddenedigol Genedlaethol (NNAP), Coleg Brenhinol Pediatrig ac Iechyd Plant (RCPCH), Bliss a safonau cyhoeddedig eraill yn Lloegr a’r Alban. 

 

Mae’r Safonau yn cynnwys gofyniad i Fyrddau Iechyd asesu yn erbyn dangosyddion ansawdd diweddaraf BAPM. Gofynnir i Fyrddau Iechyd hunanasesu yn flynyddol yn erbyn y Safonau, a fydd yn rhan o’r broses adolygu cymheiriaid sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd gan Gydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru.

 

Mae’r Rhwydwaith Newyddenedigol yn datblygu dangosfwrdd a fydd yn darparu tystiolaeth o gydymffurfiaeth â’r safonau newydd (gan gynnwys cydymffurfiaeth staff a chapasiti cotiau); darparu sicrwydd ar ansawdd gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru; darparu platfform ar gyfer monitro mesurau NNAP ar sail Cymru Gyfan; a chefnogi gofynion busnes Llywodraeth Cymru ar gyfer gwybodaeth ar ddarpariaeth gwasanaethau newyddenedigol.

 

Anghydraddoldebau o ran iechyd plant

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi gosod nod i wasanaethau cyhoeddus greu Cymru fwy cyfartal. Mae gweithredu er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn nodwedd o fewn amrywiaeth o ymrwymiadau’r Llywodraeth, gan gynnwys rhaglenni cyflogaeth, tai o ansawdd a mynediad i ofal plant.

 

Rydym yn parhau i gymryd camau ar draws y Llywodraeth i greu cymdeithas fwy cyfartal a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ym maes iechyd. Mae hyn yn cynnwys darparu mynediad cyffredinol i wasanaethau o ansawdd yn y blynyddoedd cynnar, system addysg a dysgu gynhwysol, cyflogaeth o ansawdd uchel, yn ogystal ag amgylcheddau iach i bawb. 

 

Bydd canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn parhau i fod yn greiddiol i amrywiaeth o bolisïau a rhaglenni sy’n berthnasol i blant. Er enghraifft, yn achos rhaglenni imiwneiddio, rydym yn edrych i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Byrddau Iechyd i sicrhau ffocws cryf ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran ymgymryd â’r rhaglenni hynny. Fodd bynnag, nid yw gwariant ar fynd i’r afael yn benodol ag anghydraddoldebau yn cael ei ystyried ar wahân i’r gwariant ehangach ar raglenni. Yn achos cynllunio, rydym yn disgwyl i Fyrddau Iechyd ddangos bod camau priodol yn cael eu cymryd i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd drwy eu Cynlluniau Tymor Canol Integredig.

 

Mae sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau ym mywyd yn elfen allweddol o’r ymdrech i leihau anghydraddoldebau. Mae’r GIG yn ymateb i hyn mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, trwy gyflwyno’r Rhaglen Plant Iach Cymru, rydym yn anelu at sicrhau bod anghydraddoldebau sydd wedi’u cysylltu ag iechyd gwael ymhlith plant yn lleihau ymhellach drwy sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cyffredinol i holl blant Cymru, gan ddarparu cymorth ychwanegol mewn ymateb i’r angen a nodwyd. Rydym hefyd yn parhau i ddarparu cymorth ar gyfer gwaith ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, ac yn cefnogi symud tuag at ofal cymunedol a sylfaenol. 

 

Rydym hefyd yn gweithio ar draws amrywiaeth o agendâu gyda’r bwriad o gefnogi dull sy’n cynnwys iechyd ym mhob polisi. Mae hyn yn cynnwys addysg a sgiliau, lle y mae potensial sylweddol ar gyfer y cwricwlwm newydd, a rôl a diwylliant ysgolion, i wella llythrennedd iechyd a chefnogi ffyrdd iachach o fyw i blant; a’r blynyddoedd cynnar, lle y mae angen canolbwyntio ar gyfuno agendâu er mwyn sicrhau cynnig integredig o ran cymorth i’r cyhoedd.

 

Fframwaith nyrsio mewn ysgolion

 

Y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer 2017-18 yw £18,500 ar draws y ddwy ffrwd gan gysylltu nyrsio mewn ysgolion ac ymweliadau iechyd, a gynhwysir o fewn BEL Gwella Iechyd a Gweithio’n Iach.  Nod y ffrwd waith gyntaf yw cyd-gynhyrchu, gydag ymwelwyr iechyd, dangosyddion perfformiad gwasanaeth cenedlaethol a datblygu proses fonitro i ddarparu sicrwydd a monitro arfer gorau ar draws y gwasanaeth iechyd blynyddoedd cynnar cyffredinol a gynigir i deuluoedd.  Mae’r ail ffrwd waith yn bwriadu cwmpasu gweithwyr blynyddoedd cynnar cyfredol ar draws cyrff statudol a chynnig datblygiad yn y dyfodol i gefnogi tîm ar gyfer darpariaeth plant o fewn y timau ymweliadau iechyd a nyrsio mewn ysgolion.

 

Yn 2014-15, dyrannwyd £13,512. Cafodd y swm ei rannu rhwng: £3,180 ar ddigwyddiad mewn cynhadledd gyda nyrsys ysgol ledled Cymru i gwmpasu’r hyn y dylid ei gynnwys o fewn y fframwaith nyrsio mewn ysgolion newydd; a gwariwyd £10,332 ar arweinydd rhan amser ar gyfer prosiect i ddatblygu model gwasanaeth i ymdrin ag anghenion iechyd plant a phobl ifanc mewn ysgolion arbennig. Cafodd y prosiect 12 mis hwn ei gynnal mewn tair ysgol arbennig yn ardal ddalgylch Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.

 

Yn 2015-16 dyrannwyd £33,000, o’r swm hwn gwariwyd £28,801 i gefnogi’r gwaith o ddatblygu arweinyddiaeth ymhlith nyrsys ysgol ym mhob bwrdd iechyd a chynnal gwaith i ddatblygu’r fframwaith diwygiedig.  Yn 2016-17 dyrannwyd £19,000, o’r swm hwn gwariwyd £16,976.00 ar raglenni datblygu arweinyddiaeth. Roedd hyn yn cynnwys fforymau rhanddeiliaid a digwyddiadau arweinyddiaeth i sicrhau bod y fframwaith yn cael ei gyflwyno’n effeithiol ac yn gynaliadwy, gyda’r digwyddiad lansio terfynol ym mis Mai 2017. Roedd y tanwariant yn 2015-16 a 2016-17 o ganlyniad i gostau is na’r disgwyl.

 

Ni rhagwelir unrhyw oblygiadau cost ychwanegol mewn perthynas â chanllawiau statudol diwygiedig 2017 ‘Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd’, am fod y ddogfen yn cynnwys canllawiau am ddyletswyddau cyfreithiol cyfredol. Felly, dylai’r cymorth a ddarperir i ddysgwyr ag anghenion gofal iechyd fod ar waith yn barod. Mae’r canllawiau yn ymwneud â gwella’r cynllunio a’r prosesau sydd ynghlwm wrth hyn.

 

Cymorth ar gyfer plant anabl a Chronfa’r Teulu

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o sefydliadau yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol, sy’n darparu cymorth ar gyfer plant anabl. O fewn y portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon o fis Ebrill 2016, cyflwynwyd grant newydd dros dair blynedd, sef y Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, i gefnogi’r gwaith o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Dyfarnwyd bron £22 miliwn o gyllid grant i 32 o sefydliadau a phrosiectau sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, plant sy’n derbyn gofal a phlant/pobl ifanc sy’n gadael gofal, pobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, pobl ag anableddau corfforol a/neu synhwyraidd a gofalwyr.  Cafodd ceisiadau ar gyfer y grant eu hystyried yn ofalus fel rhan o broses gystadleuol sy’n cyfateb ceisiadau â’r meini prawf cyllid grant a hysbysebwyd a blaenoriaethau polisi.  Er mwyn sicrhau bod tegwch ar draws sectorau, yr uchafswm a ddyfarnwyd i unrhyw sefydliad oedd £1.5 miliwn dros dair blynedd, sy’n cynrychioli 10% o gyfanswm y cyllid sydd ar gael.

 

Caiff y Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ei fonitro drwy adrodd ar gynnydd ac adolygu wyneb i wyneb yn ystod canol y flwyddyn ac ar ddiwedd y flwyddyn mewn perthynas â chynlluniau gwaith y cytunwyd arnynt yn flynyddol sy’n nodi dangosyddion perfformiad allweddol a chanlyniadau ar gyfer pob prosiect a ariennir. 

 

Fel rhan o’r Grant tair blynedd i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, dyfarnwyd £1.5 miliwn i Gronfa’r Teulu yn ystod y tair blynedd 2016-19.  Dyfarnwyd y cyllid grant i bawb sy’n derbyn y grant ar sail 5% o ostyngiad flwyddyn ar ôl blwyddyn, felly’r dyfarniad yn y tair blynedd 2016-17 i 2018-19 yw: 

 

Ø  2016-17 £0.526 miliwn

Ø  2017-18 £0.499 miliwn

Ø  2018-19 £0.475 miliwn

 

Yn ogystal, yn 2016-17, dyfarnwyd cyllid pontio o £0.400 miliwn i Gronfa’r Teulu i’w galluogi i reoli’r broses o bontio i’r trefniadau grant newydd, i’w helpu i ail-ganolbwyntio eu model gwneud grantiau a cheisio ffynonellau cyllido amgen.  Hawliodd Ymddiriedolaeth Cronfa’r Teulu pob cyllid grant a ddyfarnwyd yn 2016-17 ac mae’n rhagweld gwariant llawn yn erbyn dyfarniad 2017-18.

 

Atal

 

Imiwneiddio

Mae imiwneiddio yn fesur atal pwysig ac yn parhau i fod yn un o’r ymyriadau iechyd mwyaf cost-effeithiol. Mae cymorth parhaus ar gyfer costau ein rhaglen imiwneiddio yn faes allweddol o’r gyllideb ac rydym yn parhau i ymateb i gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ar gost-effeithiolrwydd rhaglenni imiwneiddio cenedlaethol cyfredol a newydd.

 

Ers 2013, cyflwynwyd nifer o raglenni imiwneiddio yn ystod plentyndod newydd a gwnaed newidiadau i raglenni cyfredol.  Rydym wedi dyrannu cyllid ychwanegol i Fyrddau Iechyd bob blwyddyn. Yn 2018-19 disgwylir i’r rhaglen brechiad rhag y ffliw i blant gael ei hymestyn i gynnwys blynyddoedd pump a chwech mewn ysgolion cynradd. Bydd hyn yn golygu taw cyfanswm y gwariant disgwyliedig yn 2018-19 yw £16 miliwn.  Ymhlith y rhaglenni newydd mae rotafirws ar gyfer babanod, y pas ar gyfer menywod beichiog i amddiffyn eu babanod newydd-anedig, y rhaglen ffliw yn ystod plentyndod, llid yr ymennydd B a llid yr ymennydd ACWY. O fis Awst 2017, cyflwynwyd brechlyn newydd ‘6 mewn 1’, a fydd yn amddiffyn yn erbyn hepatitis B yn ogystal â difftheria, polio, tetanws, y pas a Hib. 

 

Mae tystiolaeth o gyflwyno’r rhaglen brechiad rhag y ffliw yn ystod plentyndod mewn mannau eraill o’r DU wedi dangos, yn ogystal ag amddiffyn plant eu hunain, gall brechu plant iau gael effaith sylweddol ar leihau lledu’r firws ffliw yn y gymuned a, thrwy effaith ddiadell, leihau ymgynghoriadau meddygon teulu, mynediad i ysbytai a marwolaethau o ganlyniad i’r ffliw. Yn 2017-18, caiff y rhaglen plentyndod yng Nghymru ei hymestyn gan un flwyddyn ysgol gynradd h.y. blynyddoedd ysgol 5 a 6. Mae hyn yn golygu y bydd pob plentyn rhwng dwy ac un ar ddeg oed yn cael cynnig brechiad rhag y ffliw.

 

Camddefnyddio Sylweddau

 

Fel rhan o’n cyllideb ar gyfer camddefnyddio sylweddau a ddyrannwyd i Fyrddau Cynllunio Ardal, mae £2.75 miliwn yn parhau i gael ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc.  Mae darparwyr gwasanaethau sy’n derbyn yr arian hwn yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys cwnsela, lles emosiynol ac addysg ac atal ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 18 oed.  Ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hynny sy’n dechrau camddefnyddio sylweddau, gellid defnyddio’r cyllid ar gyfer nodi ac ymyrryd yn gynnar, sy’n hanfodol i gyfyngu ar niwed a lleihau’r cyfleoedd i ymddygiad camddefnyddio ddod yn ymddygiad sydd wedi ymwreiddio ac sy’n gofyn am wasanaethau triniaeth arbenigol

 

Rydym hefyd yn cwblhau Offeryn Monitro Canlyniadau newydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, sef holiadur y bydd plant a phobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn ei gwblhau gyda’i gweithiwr achos.  Y nod yw mesur a yw’r gwasanaethau yn cyflawni canlyniadau diriaethol, a sut mae plant a phobl ifanc yn elwa ar y gwasanaethau.  Bydd y wybodaeth hon yn cryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio gwasanaethau yng Nghymru a chefnogi penderfyniadau ynghylch datblygu polisi a chyllido.  Y nod yw dechrau treialu’r holiadur yn ddiweddarach eleni, a chynnal gwerthusiad yn gynnar yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda tharged o ddechrau gweithredu’r offeryn yn ystod haf 2018.  Mae hyn yn amodol ar ryddhau cyllid ar gyfer y gwerthusiad.

 

Rydym wedi sicrhau £2.7 miliwn o Arian Strwythurol Ewropeaidd i gefnogi pobl ifanc 16-24 oed sy’n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau (gan gynnwys alcohol) a/neu iechyd meddwl nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (NEET).  Y nod yw y bydd y Gwasanaeth Allan o Waith yn darparu mentora cymheiriaid a chymorth arbenigol i ychydig dros 3,300 o bobl ifanc yng Nghymru erbyn haf 2020.   

 

Rydym hefyd wedi parhau i ddarparu bron £2 miliwn i Raglen Graidd Cymru Gyfan ar gyfer Cyswllt Ysgolion.  Yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf gweithredodd y rhaglen mewn tua 95% o’r holl ysgolion cynradd ac eilradd ar draws Cymru i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch amrywiaeth o faterion addysg bersonol a chymdeithasol, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, diogelwch y rhyngrwyd, a phroblemau sy’n gysylltiedig â diogelwch personol. Caiff y rhaglen hon, y byddwn yn ei hadolygu wrth i’r cwricwlwm ysgol newydd ddatblygu yng Nghymru, ei hariannu ar y cyd â’r Heddlu a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu.

 

 

 

 

 

 

 

Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc

 

Mabwysiadu, Maethu a Phlant sy’n Derbyn Gofal

 

Mae sicrhau bod plant mewn gofal yn mwynhau’r un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill yn ymrwymiad allweddol yn y rhaglen ar gyfer y Llywodraeth, Symud Cymru Ymlaen, ac yn cynnwys amcanion llesiant ein strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb.

 

Mae’r gyllideb o fewn portffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.  Mae ei waith yn cyfrannu at leihau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) drwy gefnogi blaenoriaethau atal ac ymyrryd yn gynnar a gwella canlyniadau ar gyfer plant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal.  Mae’r Llywodraeth yn mynd i’r afael â hyn drwy raglen waith gynhwysfawr sydd â’r nod o wella canlyniadau ar gyfer plant dan arweiniad Grŵp Cynghori’r Gweinidog, a gadeirir gan David Melding, AC ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. 

 

Mae Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant yn cynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth leol, iechyd, y system llysoedd, addysg a thai i alluogi cysylltiadau effeithiol a chydberchenogaeth. Mae’r Grŵp yn goruchwylio rhaglen waith ymestynnol sydd â’r nod o wella canlyniadau ar gyfer plant, gan gynnwys cydweithredu ar draws llywodraeth yn ogystal â gweithio’n agos mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allanol. 

 

Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cafodd cyllidebau eu cysoni â phortffolios gweinidogol.  Felly, trosglwyddodd y cyllidebau a ddefnyddiwyd i gefnogi’r gwaith o gynnal a datblygu gwasanaethau mabwysiadu, maethu a phlant sy’n derbyn gofal o MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i MEG Cymunedau a Phlant fel rhan o’r Ail Gyllideb Atodol.  Rwyf yn gweithio ochr yn ochr â’m cydweithwyr gweinidogol i drafod blaenoriaethau cyffredin.

 

Eleni, gwnaethom dderbyn £20 miliwn o gyllid canlyniadol ychwanegol o Gyllideb Gwanwyn y DU ar gyfer gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol.  Dyrannwyd £8 miliwn o’r gyllideb honno i leihau nifer y plant sy’n mynd i mewn i ofal.  Cytunwyd ar y blaenoriaethau isod rhwng gweinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet:

 

Ø  buddsoddiad o £5 miliwn mewn ymestyn gwasanaethau gofal awdurdodau lleol

Ø  £0.850 miliwn i gyflwyno’r prosiect Reflect ledled Cymru sydd â’r nod o leihau nifer y plant sy’n mynd i mewn i ofal drwy dorri cylched beichiogrwydd ailadroddus a gweithredoedd gofal rheolaidd

Ø  £1.625 miliwn i gefnogi plant/pobl ifanc sy’n gadael gofal i ddyfodol llwyddiannus a byw’n annibynnol drwy ddarparu adnoddau ychwanegol i gynlluniau lleoliad gwaith/prentisiaeth awdurdodau lleol ac ymestyn darpariaeth cynghorwyr personol hyd at 25 oed

Ø  £0.400 miliwn i weithredu’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol

Ø  £0.125 miliwn i ddatblygu gwaith cymorth mabwysiadu

Yn ogystal â’r cyllid canlyniadol, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant y Gronfa Dydd Gŵyl Dewi o £1 miliwn.  Mae’r Gronfa hon yn caniatáu i awdurdodau lleol ddarparu cymorth ariannol i blant/pobl ifanc sy’n gadael gofal er mwyn iddynt allu cael mynediad i gyflogaeth, cyfleoedd addysg a hyfforddiant, gwella eu cyfleoedd tuag at fywydau annibynnol.

 

Dull Cenedlaethol o ymdrin ag Eiriolaeth Statudol

Mae Symud Cymru Ymlaen yn nodi y byddwn yn “archwilio ffyrdd o sicrhau bod plant mewn gofal yn mwynhau’r un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill, a diwygio’r ffordd y gofelir amdanynt os bo angen”.

Mae datblygu Gofal Cymdeithasol yn un o’r 5 prif flaenoriaeth yn Ffyniant i Bawb ac mae’n glir y dylid gwrando ar blant a’u helpu i ddatblygu perthnasau cadarnhaol. 

Gyda’n partneriaid, rydym wedi datblygu Dull Cenedlaethol o ymdrin ag Eiriolaeth Statudol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, plant mewn angen ac unigolion penodol eraill. Mae hyn yn golygu cysondeb o ran hawl ac arfer da wrth gomisiynu, darparu a chodi ymwybyddiaeth am ddarpariaeth eirioli statudol yng Nghymru.  Mae cyfrifoldeb y maes polisi hwn yn perthyn i gylch gwaith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.

 

Mae’r broses o weithredu’r Dull Cenedlaethol wedi’i chostio rhwng £1 miliwn ac £1.1 miliwn.  Yn Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Ddarpariaeth Statudol, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ymrwymiad y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad o hyd at £0.550 miliwn i Gydweithrediadau Rhanbarthol Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu’r cynnig gweithredol yn llawn a chefnogi’r dull.  Daw gweddill y cyllid o gyllidebau unigol yr Awdurdodau Lleol.

 

Grant yw’r cyllid, a gaiff ei fonitro ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf gydag adroddiadau monitro chwarterol.  Ar ddiwedd y flwyddyn weithredu gyntaf, 2018-19, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu’r broses weithredu.

 

Mae’r Dull Cenedlaethol yn cynnwys Fframwaith Canlyniadau a Safonau Cenedlaethol sydd wedi’i fapio i’r Datganiad Llesiant sy’n sail i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Nid yw Llywodraeth Cymru yn darparu’r gweithgarwch hwn yn uniongyrchol ond mae’n cynnal cyfarfodydd monitro rheolaidd ac adolygiadau gyda’r Uwch Grŵp Arwain ar gyfer y Dull Cenedlaethol.

 

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu contract 2 flynedd, gwerth £0.550 miliwn y flwyddyn, i Pro-Mo-Cymru ar gyfer darparu Meic.  Meic yw’r llinell gymorth genedlaethol ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth sy’n darparu un man cyswllt i blant a phobl ifanc drwy wasanaeth rhadffôn, negeseua gwib a thestun.  Caiff Meic ei fonitro’n chwarterol drwy gyfarfodydd rheoli contractau a dangosyddion perfformiad allweddol.  Ar hyn o bryd mae opsiynau ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn y dyfodol yn cael eu hystyried i sicrhau ei fod yn gyson â datblygiadau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

Diogelu

 

Sefydlwyd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i weithio gyda Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion i hybu gwelliannau; adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion a gwneud argymhellion i Weinidogion ynghylch sut y gellid gwella trefniadau. Rydym yn darparu ysgrifenyddiaeth a chefnogi rhaglen waith y Bwrdd, gwerth £0.200 miliwn y flwyddyn.

 

Rydym yn cefnogi digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol yn ystod wythnos diogelu, gwerth £22,000 i godi ymwybyddiaeth o ddiogelu a materion perthnasol.

Byddwn yn darparu hyfforddiant cyffredinol ar gyfer ymarferwyr wrth ddarparu Adolygiadau Ymarfer ar gyfer Plant ac Oedolion, gwerth £45,000.

 

Byddwn yn darparu grant o £0.100 miliwn i Fwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro i ddarparu’r Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol sy’n deillio o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac is-ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau i gynorthwyo diogelwch gwell ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ffurfiau eraill o niwed.

 

 

 

 

 

 

 

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

 

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol